Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 27 Chwefror 2020
Amser: 10.15 - 14.30
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Trevor Reaney (Cadeirydd dros dro) Ronnie Alexander Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Joanna Adams Anna Daniel Carys Evans Huw Gapper Craig Griffiths Gareth Watts |
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Fonesig Dawn Primarolo. Dewiswyd Trevor Reaney yn Gadeirydd Dros Dro ar gyfer y cyfarfod hwn.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr.
1.4 Cyn y cyfarfod, cyfarfu'r Bwrdd â'r Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau a Grŵp Cynrychiolwyr y staff cymorth, a oedd yn adeiladol ac a groesawyd yn fawr. Nododd y Bwrdd y byddai materion a godwyd yn y cyfarfodydd hynny yn llywio ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
1.5 Trafododd y Bwrdd pa adnoddau ychwanegol y gallai eu gweithredu i wneud ei orau i liniaru unrhyw risg posibl i ddiogelwch staff cymorth wrth iddynt wneud eu gwaith. Cytunodd y Bwrdd i dalu am un ddyfais diogelwch personol ychwanegol ar gyfer swyddfa pob Aelod (yn ychwanegol at y dyfeisiau a ddarperir i'r Aelodau eu hunain).
1.6 Nododd y Bwrdd y bydd y Cynulliad yn cynnal wythnos o fusnes yng ngogledd ddwyrain Cymru ym mis Mehefin 2020. Cytunodd y Bwrdd, ar gyfer yr wythnos hon yn unig, y gellid defnyddio'r nifer cyfyngedig o deithiau yn ôl a blaen gan staff cymorth rhwng etholaeth /rhanbarth yr Aelod a'r lleoliad yng ngogledd ddwyrain Cymru a amlinellwyd yn y Penderfyniad.
1.7 Trafododd y Bwrdd gais gan y Llywydd i ystyried diwygio cyfradd cyflog Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adlewyrchu cynnydd o ran ei gyfrifoldebau.
1.8 Cytunodd y Bwrdd y dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd cyflog lefel uwch i gadeiryddion pwyllgorau. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gyfradd hon yn gymwys o 1 Mawrth 2020 tan ddiwedd y Pumed Cynulliad.
1.9 Nododd a chytunodd y Bwrdd ei Flaenraglen Waith am weddill ei gyfnod.
Camau gweithredu:
- Yr Ysgrifenyddiaeth i roi gwybod i’r Llywydd am y penderfyniad i dalu rôl Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y gyfradd gyflog lefel uwch ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn.
- Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.
2.1 Croesawodd y Bwrdd Joanna Adams i'r cyfarfod.
2.2 Trafododd y Bwrdd gwmpas adolygiad o'r llawlyfr i staff cymorth.
2.3 Cytunodd y Bwrdd, yn dilyn trafodaeth ar yr adolygiad o'r llawlyfr, y byddai'n briodol adnewyddu'r contract presennol i adlewyrchu'r newidiadau i’r llawlyfr. Byddai hyn yn sicrhau eu bod yn gydnaws â’i gilydd a'u bod yn addas ar gyfer y Chweched Senedd.
2.4 Nododd y Bwrdd y byddai Cymorth Busnes i’r Aelodau yn trafod hyn ymhellach gyda'r Grwpiau Cynrychiolwyr dros yr wythnosau nesaf.
3.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i'r ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2020-21 a’r cynigion o ran y newid enw.
3.2 Penderfynodd y Bwrdd gynyddu’r lwfans gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau ardal allanol 1.7 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn cynyddu'r lwfans i £9,720 y flwyddyn (sef £810 fesul mis calendr).
3.3 Cytunodd y Bwrdd i gynyddu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 3.86 y cant a fydd yn golygu bod y lwfans yn £999,070 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
3.4 Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar gyfyngiadau ar allu'r Aelodau i recriwtio ar gyfer contractau cyfnod penodol drwy ddiwygio'r Polisi Recriwtio. Byddai recriwtio o'r fath yn destun cyfyngiad o 18 mis yn lle'r cyfyngiad chwe mis presennol. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r penderfyniad yn dod i rym o'r flwyddyn ariannol nesaf.
3.5 Cytunodd y Bwrdd i ddiwygio'r Polisi Recriwtio i adlewyrchu'r penderfyniad hwn. Bydd y Polisi Recriwtio yn parhau i nodi y bydd pob penodiad sy'n hwy na chwe mis yn destun proses recriwtio agored a theg.
3.6 Cytunodd y Bwrdd hefyd i ddiwygio'r adran ar Gymorth Dros Dro yn y Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn i ddod i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.
3.7 Nododd y Bwrdd y bydd newid enw'r Cynulliad i'r Senedd yn digwydd ar 6 Mai 2020. Cynigiodd y Bwrdd ei bod yn rhesymol na ddylai Aelodau allu hawlio costau diweddaru eitemau o ganlyniad i'r newid enw, fel arwyddion swyddfa, cyn etholiad nesaf y Cynulliad.
3.8 Cytunodd y Bwrdd i beidio â chaniatáu i Aelodau hawlio costau adnewyddu eitemau sy'n gysylltiedig â newid enw cyn yr etholiad nesaf. Mae'r Bwrdd yn cadw at ei farn flaenorol fod hwn yn ddull priodol oherwydd y trosiant posibl yn nifer yr Aelodau mewn etholiad a hyd oes fer arwyddion newydd.
3.9 Cyhoeddir fersiwn wedi'i diweddaru o'r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf maes o law.
4.1 Croesawodd y Bwrdd Gareth Watts, y Pennaeth Llywodraethu, i'r cyfarfod.
4.2 Ystyriodd y Bwrdd gynigion i gynnal adolygiad diwedd tymor o'i effeithiolrwydd, gan gynnwys cwmpas yr adolygiad, y cylch gorchwyl drafft a'r themâu i edrych arnynt ymhellach.
4.3 Cytunodd y Bwrdd i gynnal adolygiad diwedd tymor a fydd yn ystyried effeithiolrwydd perfformiad y Bwrdd dros ei gyfnod; sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn unol â Mesur 2010, a sut mae wedi cyflawni ei waith yn ôl ei strategaeth.
4.4 Disgwylir y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn mis Mai 2020 ac y bydd yn llywio adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd ei gyfnod.
Cam gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i gynnal adolygiad o effeithiolrwydd gwaith y Bwrdd ac adrodd yn ôl i'r Bwrdd yn ddiweddarach yn nhymor y gwanwyn.
5.1 Bu'r Bwrdd yn ystyried ac yn trafod opsiynau a chostau ar gyfer darparu yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth yr Aelodau.
5.2 Cytunodd y Bwrdd i gynnal y trefniadau yswiriant presennol.
Cam gweithredu:
- Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad yn nodi y bydd y trefniadau yswiriant cyfredol yn cael eu cynnal ac y bydd cost yr yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth yn cael ei thalu gan Gomisiwn y Cynulliad.